George Osborne, y Canghellor
Mae’r Canghellor, George Osborne, wedi galw am strategaeth economaidd fyd-eang er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng ariannol.

Daw ei alwad mewn erthygl yn y Financial Times wrth i’r marchnadoedd stoc syrthio’n sylweddol ymysg pryderon am ddyledion parth yr ewro a’r Unol Daleithiau.

Mae’r erthygl gan George Osborne wedi ei arwyddo gan weinidogion cyllidol sawl gwlad arall, gan gynnwys Canada, Awstralia a De Affrica.

Mae’n galw ar wledydd eraill i fynd ati i dorri eu diffygion ariannol er mwyn osgoi methdalu ac achosi argyfwng ariannol tebyg i’r un a welwyd yn 2008.

Mae pryder newydd y gallai rhagor o fanciau fethu os yw gwledydd gan gynnwys Gwlad Groeg, Sbaen, yr Eidal, Iwerddon a Portiwgal yn methdalu.

Ni fyddai arian wrth gefn i’w hachub y tro yma ac mae pryderon y byddai ail chwalfa yn waeth na’r cyntaf.

Dywedodd George Osborne fod ganddo gefnogaeth ryngwladol i’w doriadau ac nad oes cefnogaeth bellach i strategaeth y Blaid Lafur, sef toriadau arafach.

Daw’r erthygl ymysg rhagor o adroddiadau sy’n awgrymu y bydd economi Prydain yn farwaidd am gyfnod eto.

Yn ôl arolwg gan Sefydliad Siartredig Datblygiad a Phersonél mae rhagor o gwmnïoedd yn bwriadu torri nifer eu staff yn awr nag sy’n bwriadu cyflogi rhai newydd.

“Rydyn ni wedi gweld twf mewn cyflogaeth yn ddiweddar ond fe allen ni weld ail bwl o golli swyddi,” meddai Gerwyn Davies o’r sefydliad.

Dim ond 0.2% y tyfodd economi Prydain yn ail chwarter 2011.