Theresaa May
Fe allai’r tensiynau rhwng yr heddlu a Llywodraeth Prydain gynyddu ymhellach wrth i’r Prif Weinidog wahodd cyn heddwas o ‘r Unol Daleithiau i roi cyngor ar atal terfysgu.
Fe fydd Bill Bratton, sy’n gyn bennaeth heddlu yn Efrog Newydd, Los Angeles a Boston, yn dod i Loegr y mis nesa’ i egluro sut yr oedd wedi gostwng troseddu yn y dinasoedd hynny.
Ond mae arweinwyr heddluoedd Lloegr eisoes wedi ymateb yn gry’ i feirniadaeth gan David Cameron, sydd wedi awgrymu mai’r Llywodraeth a fynnodd weithredu’n wahanol er mwyn rheoli’r terfysg.
Yn ôl pennaeth dros dro Heddlu Llundain, Tim Godwin, roedd hi’n ddigon hawdd i bobol feirniadu os nad oedden nhw yno ar y pryd – cyfeiriad amlwg at y ffaith bod y Prif Weinidog ar ei wyliau yn nyddiau cynta’r terfysg.
Mae yna feirniadaeth wedi bod hefyd ar yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, am awgrymu ei bod hi wedi gorchymyn i heddluoedd ganslo eu holl wyliau – yn ôl yr heddlu, does ganddi ddim hawl i wneud hynny.
Achosion llys
Erbyn hyn, mae 1,600 o bobol wedi cael eu harestio am droseddau’n ymwneud â’r terfysgu a thua 800 eisoes wedi ymddangos o flaen llysoedd.
Yn ôl ystadegwyr, mae dwy ran o dair o’r rheiny wedi cael eu cadw yn y ddalfa ond dim ond tuag un o bob saith oedd o dan 18 oed.