David Cameron
Fe fydd Senedd San Steffan yn cael ei alw yn ôl ddydd Iau er mwyn trafod y terfysg ar strydoedd Llundain a dinasoedd eraill.
Mewn datganiad ar ôl cyrraedd yn ôl o’i wyliau yn Tuscany y bore ma dywedodd y Prif Weinidog eu bod nhw’n bwriadu gwneud popeth o fewn eu gallu i atal y trais.
Ychwanegodd y bydd yna 16,000 o swyddogion yr heddlu ar strydoedd Llundain heno – 10,000 yn fwy na’r 6,000 gymerodd ran neithiwr.
“Rhaid i’r rheini sy’n troseddu, gael eu herio a’u gorchfygu,” meddai David Cameron.
“Mae’n amlwg fod angen rhagor o heddlu arnom ni a rhagor o weithredu cadarn.
“Fe fyddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod a chyfraith a threfn yn ôl i strydoedd Prydain a’u gwneud nhw’n saff i’r rheini sy’n parchu’r gyfraith.”
Dywedodd y bydd Senedd San Steffan yn cael ei alw’n ôl yn gynnar “fel ein bod ni’n gallu sefyll â’n gilydd a beirniadu’r troseddau yma”.
“Mae unrhyw un sy’n ddigon hen i gyflawni’r troseddau yma yn ddigon hen i wynebu’r gosb.
“Nid yn unig yr ydych chi’n dinistrio bywydau pobol eraill, ac yn dinistrio eich cymunedau, ond rydych chi’n dinistrio eich bywydau eich hunain hefyd.”
Ychwanegodd eu bod nhw’n “benderfynol o ail-adeiladu” y cymunedau sydd wedi eu heffeithio.