Terfysg Llundain (Lewis Whyld/PA Wire)
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, yn bwriadu dychwelyd o’i wyliau yn gynnar heddiw wrth i derfysg Llundain ledu i ddinasoedd eraill.

Gwelwyd lladrata, trais, a chynnau tannau bwriadol, mewn sawl ddinas fawr, yn ogystal ag yn Llundain lle y dechreuodd y problemau ddydd Sadwrn.

Dyma’r terfysg gwaethaf ar y strydoedd mewn degawdau a chafodd cannoedd o bobol eu harestio.

Bydd David Cameron yn hedfan yn ôl i Brydain er mwyn cadeirio pwyllgor argyfwng y Llywodraeth, Cobra, ar ôl bod ar wyliau teuluol yn Tuscany.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol, Theresa May, eisoes wedi beirniadu “troseddolrwydd pur” y terfysgoedd wrth i’r heddlu a’r gwasanaethau brys gael eu gorlethu gan y broblem.

Dechreuodd y trafferthion yn Llundain yng ngolau dydd cyn lledu i ddinasoedd Birmingham, Bryste a Lerpwl yn ystod y nos neithiwr.

Bu’n rhaid i Scotland Yard ddefnyddio cerbydau arfog er mwyn gwthio mwy na 150 o bobol yn ôl yng Nghyffordd Clapham, de Llundain, wrth iddyn nhw ymosod ar siopau a busnesau.

Arestiodd yr heddlu tua 100 o bobol yn Birmingham ar ôl i bobol ifanc ymosod ar ganol y ddinas, ger canolfan siopau’r Bullring.

Yn y cyfamser cafodd ceir eu rhoi ar dân yn Lerpwl, ac fe daflwyd clybiau golff at yr heddlu wrth iddyn nhw geisio atal y gangiau oedd wrthi.

Ym Mryste gofynnodd yr heddlu i drigolion osgoi canol y ddinas wrth i 150 o derfysgwyr grwydro’r strydoedd.

Yn Llundain oedd pethau ar eu gwaethaf, serch hynny, ac ymfyddinodd dros 1,700 o swyddogion ym mhob cwr o’r brifddinas.

Dywedodd Scotland Yard fod 334 o bobol wedi eu harestio a 39 wedi eu cyhuddo ar draws y brifddinas.

“Mae hyn yn droseddolrwydd pur,” meddai Theresa May. “Dyma beth ydyn ni wedi ei weld ar y strydoedd.”

Daw’r tair noson o drais yn olynol ar ôl protest heddychlon yn Tottenham ddydd Sadwrn, yn dilyn saethu Mark Duggan, 29, yn farw ddydd Iau.

Bydd cwest i farwolaeth Mark Duggan yn agor y bore ma.