Terfysg Tottenham (Llun PA)
Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn mynd i’r afael ag aflonyddwch ar draws Llundain dros nos wrth i’r trais yno barhau.

Dywedodd Scotland Yard fod swyddogion yr heddlu wedi eu hanfon i’r strydoedd er mwyn delio â phobol oedd yn “dynwared” y terfysg yn Tottenham ddydd Sadwrn.

Cafodd 26 o blismyn eu hanfu yn y terfysgoedd bryd hynny, a ddachreuodd yn dilyn saethu Mark Duggan, 29, yn farw ddydd Iau.

Roedd trais mewn sawl bwrdeistref yn y gogledd, de a dwyrain Llundain, gan gynnwys Brixton, Enfield, Walthamstow ac Islington, dros nos neithiwr.

Aethpwyd a tri heddwas i’r ysbyty ar ôl iddyn nhw gael eu taro gan gerbyd oedd yn symud yn gyflym am 12.45am bore ma.

Roedden nhw wedi bod yn gwneud arestiadau ar ôl i ladron ifanc ymosod ar siop yn Chingford Mount, Waltham Forest.

Yn y cyfamser roedd brwydr yn Ysbyty King’s College ar ôl i ddau griw gwahanol gyrraedd yno â mân anafiadau.

Bu’n rhaid anfon chwe injan dân i frwydro’r fflamau mewn siop Foot Locker yn Brixton, a gwelodd llygaid dystion yr heddlu yn brwydro â lladron mewn siop Currys gerllaw.

‘Sefyllfa heriol’

Dywedodd yr heddlu mai grwpiau “bach a symudol” oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r trais.

Roedden nhw wedi ymosod ar swyddogion yr heddlu ac wedi difrodi sawl un o gerbydau’r heddlu, meddai llefarydd.

“Mae hwn yn sefyllfa heriol ac mae yna bocedi bach o drais wedi bod mewn sawl ardal,” meddai’r Cadlywydd Christine Jones.

“Rydyn ni wedi lleoli unedau ar draws Llundain ac yn symud yn gyflym er mwyn mynd i’r afael â unrhyw adroddiadau am droseddau.”