Broadwater Farm (Indiscenti CCA 3.0)
Fe gafodd wyth o blismyn a nifer o bobol gyffredin eu hanafu mewn terfysg yn ardal Tottenham yn Llundain neithiwr.

Erbyn y bore yma, roedd Heddlu Llundain yn dweud bod ychydig helyntion yn parhau mewn rhai llefydd ond eu bod yn delio gyda’r rheiny.

Fe gafodd bys dybl-decer, adeiladau  a thri cerbyd heddlu eu rhoi ar dân yn yr helyntion a ddilynodd brotest yn erbyn lladd dyn gan yr heddlu ddydd Iau.

Gorymdaith brotest

Roedd mwy na 100 o deulu a ffrindiau Mark Duggan, 29 oed, wedi gorymdeithio o ardal ei gartre’ yn Stad Broadwater Farm i brotestio o flaen swyddfa heddlu ond fe drodd hynny’n ddiweddarach yn ymladd rhwng cannoedd o bobol a heddlu mewn dillad terfysg.

Roedd y gwrthdaro’n codi atgofion am y terfysgoedd yn yr un stad yn 1985 pan fu gwraig leol groenddu  farw wrth i’r heddlu chwilio’i thŷ. Bryd hynny, fe gafodd plismon ei ladd.

Y tro yma, fe gafodd Mark Duggan ei ladd ar ôl i blismyn saethu at dacsi yr oedd yn teithio ynddo – yn ôl yr heddlu roedd rhywun wedi tanio atyn nhw o’r car.

Galw am osteg

Mae’r Aelod Seneddol, David Lammy, wedi gofyn am osteg, er mwyn i deulu Mark Duggan gael cyfle i ddarganfod y gwir am ei farwolaeth.

Yn ôl y Comander, Stephen Watson, roedd protest heddychlon wedi troi’n annisgwyl yn derfysg treisgar.

Mae Comisiwn  Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio i farwolaeth Mark Duggaan.