Vince Cable
Mae’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, wedi honni heddiw fod Prydain “mewn safle cryf” wrth i’r economi byd-eang ddechrau datod unwaith eto.

Dywedodd fod Llywodraeth San Steffan wedi ennill hyder y farchnad drwy fwrw ymlaen â thoriadau llym yn syth ar ôl cael ei ethol, meddai.

Heddiw cyhoeddwyd fod yr Unol Daleithiau wedi colli ei sgôr credit AAA.

Dywedodd asiantaeth credyd Standard & Poor eu bod nhw wedi israddio sgôr credit y wlad i AA+, am nad oedden nhw wedi gweithredu’n ddigon llym er mwyn torri eu diffyg ariannol.

Ond er gwaethaf pryderon y gred yw y bydd Prydain yn cadw ei sgôr credit AAA oherwydd eu bod nhw wedi bwrw ymlaen â thoriadau i’r diffyg ariannol yn gynt.

Mae dwy asiantaeth sgôr credit arall, Moody’s a Fitch, yn parhau i ystyried sgôr credit yr Unol Daleithiau yn AAA, yr un fath a Phrydain.

Galwodd China ar yr Unol Daleithiau heddiw i ddod a’u “dibyniaeth ar ddyled” i ben, ac ychwanegodd gweinidog cyllidol India, Pranab Mukherjee, fod y sefyllfa yn un “difrifol”.

Dywedodd Vince Cable fod colli’r sgôr credit AAA “yn anochel” yn dilyn y ffrae rhwng Gweriniaethwyr a Democratiaid ynglŷn â rheoli’r diffyg ariannol.

“Mae’r marchnadoedd stoc bellach yn canolbwyntio ar sgôr credit y llywodraethau. Tair blynedd yn ôl roedden nhw’n pryderu am fanciau a’u sefydlogrwydd,” meddai.

“Oherwydd hynny mae Prydain mewn safle cryf. Mae’r marchnadoedd yn gweld fod gennym ni lywodraeth sefydlog, ac wedi mynd i’r afael â’r diffyg ariannol.”

Ychwanegodd fod angen i wledydd parth yr ewro gyd-weithio’n agosach er mwyn mynd i’r afael â gwendid economaidd de’r cyfandir.