Mae cwymp sylweddol wedi bod yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i ddamweiniau lle’r oedd gyrwyr wedi bod yn yfed, yn ôl y ffigurau diweddaraf gan y llywodraeth.

Fe fu 250 o farwolaethau yn 2010 – 35% yn llai na’r cyfanswm o 380 yn 2009, meddai’r Weinyddiaeth Drafnidiaeth.

Fe fu gostyngiad o 18% hefyd mewn anafiadau difrifol o ganlyniad i ddamweiniau yfed a gyrru.

Fe fydd y cwymp sylweddol yn galondid i’r Llywodraeth, yr heddlu ac ymgyrchwyr diogelwch ffyrdd. Roedd y ffigurau wedi aros yn weddol gyson dros y pedair blynedd cynt, gan arwain at ofnau nad oedd y neges yn erbyn yfed a gyrru’n cyrraedd y troseddwyr gwaethaf.

O edrych dros y tueddiadau dros y 30 mlynedd diwethaf, mae’r cwymp yn nifer y marwolaethau wedi bod yn syfrdanol.

Yn 1979, pryd y dechreuwyd cadw cofnodion am farwolaethau yfed a gyrru, roedd cymaint â 1,640 o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol.

Meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth Norman Baker: “Mae’r ffigurau’n awgrymu bod y nifer o farwolaethau yfed a gyrru bellach yn 83% is na’r hyn oedd 30 mlynedd yn ôl. Mae hyn i’w groesawu’n fawr.

“Fodd bynnag, rydym yn benderfynol o barhau i weithredu’n llym yn erbyn y lleiafrif bach o yrwyr sy’n dal i anwybyddu’r uchafswm y gellir ei yfed.”