Mae cyfrifon Banc Lloyds yn dangos colledion o dros £3 biliwn yn ystod hanner cyntaf eleni ar ôl i’r grŵp orfod neilltuo swm debyg yn sgil sgandal camwerthu yswiriant diogelu incwm.

Mae colled y grŵp bancio sydd â 41% ohono’n eiddo i’r Llywodraeth yn cymharu ag elw o £1.3 biliwn y llynedd.

Hyd yn oed ar ôl y symiau sydd wedi eu gosod o’r neilltu ar gyfer taliadau iawndal i gwsmeriaid y camwerthwyd yswiriant iddyn nhw, mae’r elw’r banc yn dal 31% yn is.

Ar ben hyn, mae’r grŵp yn gorfod gwerthu 632 o ganghennau o dan ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’n gobeithio y bydd ganddo brynwr erbyn diwedd y flwyddyn.

Argyfwng ariannol

Mae’r grŵp, sy’n berchen ar Halifax, y Bank of Scotland a’r Cheltenham & Gloucester, yn gorfod gwerthu’r canghennau o ganlyniad i’r £20 miliwn o gymorth gan y wladwriaeth a gafodd yn dilyn yr argyfwng ariannol yn 2008.

Mae’r colledion diweddaraf yn newyddion drwg i’r Llywodraeth, gan y byddan nhw’n debyg o olygu y bydd gwerth cyfranddaliadau grŵp Lloyds yn aros yn isel.

Dim ond 40 ceiniog yw gwerth cyfranddaliadau Lloyds ar hyn o bryd – fe fydd angen iddyn nhw godi i 63 ceiniog cyn y gall y Llywodraeth eu gwerthu heb wneud colled.