Mae angen diwygiadau mawr ar y system bensiynau os yw miliynau o weithwyr yn y sector breifat yn mynd i arbed digon o arian i ymddeol arno, yn ôl adroddiad newydd.

Mae comisiwn a sefydlwyd gan Gymdeithas Genedlaethol y Cronfeydd Pensiwn wedi datgelu “pryder mawr” am bensiynau 23 miliwn o drigolion Prydain.

Yn ôl y comisiwn mae angen i weithwyr sicrhau fod ganddyn nhw bensiynau gwell os ydyn nhw am arbed digon o arian i fyw arno ar ôl iddyn nhw ymddeol.

Dywedodd yr Arglwydd McFall, cadeirydd y comisiwn, fod y llywodraeth wedi canolbwyntio yn bennaf ar ddiwygio pensiynau yn y sector gyhoeddus.

Ond roedd “broblemau mawr” mewn pensiynau yn y sector breifat hefyd, meddai.

“Mae gormod o bobol wedi eu caethiwo gan system gostus, ddryslyd ac aneffeithiol sydd ddim yn rhoi blaenoriaeth i’r cwsmer,” meddai.

“Ar ben hynny dyw pobol ddim yn arbed digon o arian i sicrhau eu bod nhw’n gallu ymddeol yn gyffyrddus.

“Mae angen i bobol gael rhywbeth yn ôl gan eu pensiynau neu dydyn nhw ddim yn mynd i drafferthu cael pensiwn.

“Fe fyddwn nhw’n gwario heddiw ac anwybyddu yfory, ac yn byw mewn tlodi ar bensiwn y wladwriaeth.

“Allen ni ddim tindroi mwyach a gadael i hynny ddigwydd,” meddai’r Arglwydd McFall, cyn-gadeirydd Pwyllgor y Trysorlys.