Tony Blair - "difaru dim"
Mae disgwyl i Ymchwiliad Irac fod yn ddamniol yn ei feirniadaeth o gyn-Brif Weinidog Prydain, Tony Blair.

Mae disgwyl i’r adroddiad ymosod ar Tony Blair am iddo ddweud “yn ddi-ffael” wrth y Senedd yn San Steffan fod gan Saddam Hussein arfau dinistriol.

Fe fydd Ymchwiliad Chilcot hefyd yn beirniadu Mr Blair am fethu â chydnabod ei fod wedi dod i gyd-ddealltwriaeth gyda chyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, George W Bush, y bydden nhw’n ymosod ar Irac, pan fuon nhw’n trafod yn Tecsas yn 2002.

Yn ôl adroddiad ym mhapur y Mail on Sunday heddiw, mae’r adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref yn ymosod ar Tony Blaid am greu criw bach o bobol sy’n gwneud penderfyniadau ymhell o gyfarfodydd swyddogol. Dyna pam fod aelodau o’i Gabinet yn Llundain ddim yn ymwybodol o benderfyniadau pwysig.

Mae Tony Blair wedi ymddangos gerbron Ymchwiliad Chilcot ddwywaith, ac wedi amddiffyn ei benderfyniad i fynd i ryfel yn Irac. Doedd o ddim yn edifar am symud Saddam Hussein o’i safle yn Arlywydd y wlad, meddai, ac fe fyddai’n gwneud yr un peth eto.