Cameron - yng nghysgod ei frawd
Mae David Cameron wedi cyfaddef ei fod wedi “byw yng nghysgod” ei frawd mawr pan oedd yn llanc.

Mae’r Prif Weinidog yn olygydd gwadd y cylchgrawn Big Issue diweddaraf. Mewn erthygl yn y cylchgrawn mae’n dweud ei fod “sawl cam y tu ôl i’w frawd” wrth dyfu i fyny.

Mae Alex Cameron, 47, yn gyfreithiwr troseddol sy’n gweithio yn Llundain ac yn ennill tua £1 miliwn y flwyddyn. Roedd tair blynedd yn hyn na’i frawd yn Eton.

Fe aeth  Alex Cameron i Brifysgol Bryste, tra bod David wedi mynd i Rydychen a dechrau ei yrfa wleidyddol yn swyddfa ymchwil y Blaid Geidwadol.

“Roeddwn i’n byw yng nghysgod fy mrawd mawr,” meddai’r Prif Weinidog. “Roedd o dair blynedd yn hyn, yn mynd i’r un ysgol, ac yn llwyddiant mawr ar y cae chwarae.

“Roedd yn wych cael esiampl i’w ddilyn, ac roeddwn i’n falch iawn ohono, ond fel sawl brawd bach arall roeddwn i salw cam ar ei hol hi o hyd.

“Pe bawn i’n gallu mynd yn ôl a rhoi cyngor i fi fy hun, fe fyddwn i’n dweud: paid poeni, fe gei di gyfle i dorri dy gwys dy hun.

“Dim ond pan adawais i’r ysgol y teimlais i fy mod i’n dianc o gysgod fy mrawd ac yn gwneud fy mheth fy hun.”

Mae’r erthygl yn clodfori ei dad Ian, a fu farw’r llynedd, ac mae’n dweud nad cyfoeth ei deulu oedd y peth gorau am ei fywyd yn blentyn.

“Roedd gymaint o gariad a chefnogaeth gan fy nheulu. Hynny, yn hytrach na’r cyfoeth, oedd wedi gwneud fy magwraeth yn un breintiedig,” meddai David Cameron.