Tony Blair
Roedd amddiffyn y cyn Brif Weinidog, Tony Blair, wrth iddo roi tystiolaeth i Ymchwiliad Irac wedi costio bron hanner miliwn o bunnoedd.
Fe ddangosodd adroddiad ar gostau gan Heddlu Llundain fod cannoedd o blismyn wedi bod ar ddyletswydd ar y ddau achlysur pan aeth y gwleidydd gerbron Ymchwiliad Chilcot.
Roedd tua 600 o blismyn wedi gorfod gweithio ar ei amddiffyn y ddwy waith honno yng Nghanolfan Gyn adledda’r Frenhines Elizabeth II yng nghanol Llundain.
Roedd cannoedd o bobol yn protestio yn erbyn y rhyfel ar y ddau achlysur, gan mai Tony Blair oedd y Prif Weinidog adeg dechrau’r rhyfel yn erbyn Irac.
Roedd y gost y tro cynta’ tros £260,000 a’r ail dro tros £220,000, gan greu union gyfanswm o £487,000.
Heddiw, fe ddywedodd llefarydd o’r Glymblaid i Atal y Rhyfel y byddai wedi bod yn well gwario’r arian ar ddod â Tony Blair ei hun o flaen ei well.
- Roedd ffigurau Heddlu Llundain hefyd yn dangos bod plismona gwrthdystiadau’r myfyrwyr yn erbyn codi ffioedd prifysgol wedi costio £7.5 miliwn.