Llyn: Heddlu Manceinion
Fe fydd nyrs 27 oed yn ymddangos o flaen llys ym Manceinion heddiw ynglŷn â’r marwolaethau yn Ysbty Stepping Hill.

Fe fydd Rebecca Leighton yn wynebu cyhuddiadau sy’n cynnwys difrod troseddol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

Mae pump o bobol wedi marw yn yr ysbyty yn Stockport – y rhan fwya’n bobol oedrannus ond un yn wraig 44 oed.

Y diweddara’ i farw oedd Vera Pearson, 84 oed.

Mae ymholiadau’r heddlu wedi canolbwyntio ar hylif halen oedd yn cael ei roi i gleifion.

Y gred yw y bydd y Crwner lleol yn astudio pob marwolaeth sydd wedi bod yn yr ysbyty yn ystod y pythefnos diwetha’.