David Caameron - wynebu cwestiynau
Fe fydd Prif Weinidog Prydain yn dod dan bwysau heddiw am ei gysylltiadau gyda’r bobol ynghanol y sgandal tros hacio ffonau symudol.
Mae David Cameron yn dod yn ôl yn fuan o ymweliad masnach ag Affrica er mwyn gwneud datganiad a wynebu cwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin.
Fe fydd llawer o’r holi ynglŷn â’i benderfyniad i gyflogi Andy Coulson yn bennaeth cyfathrebu, er ei fod wedi ymddiswyddo o fod yn olygydd y News of the World oherwydd yr hacio.
Mae bellach yn un o’r deg o bobol sydd wedi eu harestio a’u holi am y sgandal.
Honiadau newydd
Neithiwr, fe ddaeth hi’n amlwg fod Andy Coulson ei hun wedi derbyn cyngor adeg yr Etholiad Cyffredinol gan un arall o’r deg.
Neil Wallis oedd hwnnw – ei ddirprwy olygydd ar y papur ac un sydd wedi bod yn gweithio i Heddlu Llundain. Fe ymddiswyddodd pennaeth yr heddlu, Syr Paul Nicholson, oherwydd y penodiad.
Yn ôl y Blaid Geidwadol, doedd Neil Wallis ddim wedi cael ei gyflogi ganddyn nhw a dim ond cyngor anffurfiol a roddodd i Andy Coulson.
Maen nhw hefyd yn dweud nad oedd y Prif Weinidog yn gwybod am y digwyddiadau hynny.
‘Amddiffyn’
Mae David Cameron hyd yn hyn wedi amddiffyn ei benderfyniad i gyflogi Andy Coulson gan ddweud ei fod “wedi rhoi ail gyfle iddo”.
Heddiw, fe fydd hefyd yn cyhoeddi enwau’r panel sy’n cael ei benodi i edrych ar reoleiddio’r wasg a chanllawiau’r ymchwiliad i’r hacio ei hun.