Heddlu Llundain
Mae uwch swyddog arall yn Heddlu Llundain wedi ymddiswyddo tros helyntion y News of the World.

Ar ôl dod dan bwysau cynyddol, fe gyhoeddodd y Comisiynydd Cynorthwyol, John Yates, ei fod yntau’n mynd, gan ddilyn ei bennaeth, Syr Paul Stephenson.

‘Yates o’r Yard’ oedd wedi ystyried rhai o’r cwynion gwreiddiol yn erbyn y News of the World a’u perchnogion, News International, gan benderfynu nad oedd angen ymchwilio ymhellach.

Yn ddiweddarach roedd ar bwyllgor a fu’n ystyried a ddylai’r Comisiynydd benodi cyn ddirprwy olygydd y News of the World, Neil Wallis, yn ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus. Ef yw un o’r newyddiadurwyr sydd wedi eu harestio ar amheuaeth o hacio i ffonau symudol.

Ynghynt heddiw, roedd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref yn y Senedd wedi cyhoeddi eu bod am alw John Yates yn ôl o’u blaen i roi rhagor o dystiolaeth.

Fe gyhoeddodd Scotland Yard ei fod wedi cyflwyno’i ymddiswyddiad i Awdurdod Heddlu Llundain.

Cameron dan bwysau

Yn y cyfamser, mae’r Prif Weinidog, David Cameron, yn dal i ddod dan bwysau am ei rôl ef yn cyflogi pennaeth Neil Wallis, Andy Coulson, yn bennaeth cysylltiadau â’r wasg.

Mae’r Prif Weinidog yn gwadu ei fod wedi gwneud camgymeriad ac mae’n dweud ei fod yn iawn i adael gwledydd Prydain am ddeuddydd i fynd ar daith fasnach i Affrica.

Fe gyhoeddodd rhif 10 Downing Street heddiw y bydd David Cameron yn dod yn ôl i ateb cwestiynau Aelodau Seneddol ddydd Mercher wrth i Dŷ’r Cyffredin ohirio dechrau eu gwyliau am ddiwrnod.