Logo banciau Lloyds
Mae’r gwr busnes Clive Cowdery wedi rhoi sioc i’r byd ariannol trwy roi bid i mewn i brynu 632 o ganghennau banciau’r Lloyds Banking Group.lloyds

Mae ymhlith llond llaw o bobol sydd wedi mentro yn rownd gyntaf y cynigion i brynu’r asedau. Roedd gofyn iddyn nhw fynegi eu bwriad erbyn yr wythnos ddiwetha’, yn ôl stori yn y Sunday Times heddiw.

Mae Virgin Money a NBNK, menter dan arweinyddiaeth yr Arglwydd Levene, hefyd yn y ras, ond mae papur y Mail on Sunday yn awgrymu fod Lloyds hefyd wedi bod dan bwysau – i gynnig gwell dêl i’r bidiwr llwyddiannus.

Yn ogystal â’r canghennau, mae’r casgliad o fusnesau ar gael bellach yn cynnwys 19% o’i fudnes morgaist, a chyfrifon 5% o’r farchnad manwerthu.

Mae Lloyds yn cael ei orfodi i werthu canghennau yn gyfnewid am y £20bn o arian cyhoeddus a roddwyd i’r cwmni ym mis Hydref 2008 i wneud yn siwr nad oedd yn un o’r banciau oedd yn mynd i’r wal ar ddechrau’r dirwasgiad presennol.