Prif Weinidog Prydain
Mae Gweinidogion Llywodraeth Prydain wedi ymgasglu yng nghartref gwledig y Prif Weinidog heddiw i gynnal cyfarfod gwleidyddol arbennig cyn gwyliau’r haf.

Yn ôl rhai fu yno ni chafodd y sgandal hacio ffonau symudol ei thrafod yn Chequers. Yn hytrach roedden nhw’n canolbwyntio ar raglen ehangach y Glymblaid ConDem.

Roedd Gweinidogion yn trafod yr angen am raglen ar y cyd iyn sail i gynadleddau hydref y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol, hyd’noed os fydd y ddwy blaid yn defnyddio’r achlysuron hyn fel cyfle i gyfleu negeseuon gwahanol ac unigryw ar faterion penodol.

“Flwyddyn ers clymbleidio, rydan ni’n dal i gyfarfod fel hyn ac mae’r Cabinet yn unedig ac mor gryf ag erioed,” meddai un o gynorthwy-wyr Cameron.

“Yn amlwg mae’r wlad yn dal i wynebu sawl her, ac mae’n bwysicach nac erioed ein bod yn cydweithio er lles y wlad.

“Rydan ni eisoes wedi gwneud penderfyniadau mawr, pwysig ac rydan ni’n benderfynol o barhau yn y ffordd yma.”