Ruper Murdoch ar y chwith
Mae Rupert Murdock wedi addo y bydd yn herio’r “celwydd pur” sydd wedi ei gyhoeddi am News Corporation yn ystod y sgandal hacio ffonau, pan fydd yn ymddangos o flaen Aelodau Seneddol yr wythnos nesaf.
Mae’r Barwn newyddion aml-gyfryngol wedi ildio i’r pwysau a chytuno i roi tystiolaeth o flaen Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth, er iddo ddweud yn wreiddiol nad oedd yn gallu bod yno.
Mewn cyfweliad â The Wall Street Journal, sef un o bapurau News Corp, dywedodd Murdoch ei fod yn dymuno mynd i’r afael â “rhai o’r pethau sydd wedi eu dweud yn y Senedd, rhai pethau sy’n gelwydd pur.”

Roedd yn son hefyd am ddangos i’r cyhoedd fod gan ei gwmni hygrededd.

 “Roeddwn yn teimlo mai’r peth gorau oedd I fod mor dryloyw ac agored ag sy’n bosib,” meddai wrth drafod ei benderfyniad I wynebu’r gwleidyddion wyneb yn wyneb.

Er y gwrthwynebiad mawr i’w gwmni yn gyhoeddus, ar ôl i’r honiadau hacio ffonau symudol ymddangos ac arwain at dranc The News of the World, mae Rupert Murdoch wedi mynnu fod News Corp wedi delio â’r creisis yn “arbennig o dda mewn pob ffordd posib,” gan wneud “camgymeriadau bychain” yn unig.
“Pan dw i’n clywed bod rhywbeth wedi mynd yn anghywir, dw i’n mynnu rhoi pethau’n iawn,” ychwanegodd.
Dywedodd y byddai’r cwmni nawr yn sefydlu pwyllgor annibynnol i edrych ar y cyhuddiadau yn eu herbyn, gydag unigolyn “o hygrededd” yn arwain yr ymchwil.
Ond mae’r pwysau ar Murdoch wedi cynyddu wrth iddi ddod i’r amlwg bod yr FBI yn ymchwilio i’r honiadau fod newyddiadurwyr News Corp wedi ceisio hacio ffonau rhai a gafodd eu lladd yn yr ymosodiadau terfysgol ar yr 11fed o Fedi ddeng mlynedd yn ôl.
 
Gordon Brown yn ‘anghywir’
Yn ei gyfweliad â The Wall Street Journal, roedd Rupert Murdoch yn wfftio honiadau Gordon Brown fod papurau ei gwmni News International, gan gynnwys The Sunday Times, wedi torri’r gyfraith i gael gafael ar wybodaeth ynglŷn â’r cyn-Brif Weinidog a’i deulu.
Yn ôl Murdoch mae Gordon Brown wedi cael pethau’n “gwbwl anghywir,” gan ddweud fod “y Browniaid wastad yn ffrindiau â ni” – nes i bapur The Sun wrthod cefnogi’r Blaid Lafur yn yr etholiad diwethaf.
Pan holwyd Rupert Murdoch a oedd yn dechrau colli amynedd â’r sylw negyddol dros y dyddiau diwethaf, dywedodd fod pethau’n dechrau mynd yn “boendod,” ond “ddo i dros y peth. Dw i wedi blino.”