Rebekah Brooks a Rupert Murdoch (Gwifren PA)
Mae perthnasau Milly Dowler, y ferch ysgol a gafodd ei llofruddio yn 2002, wedi pwyso ar Rebekah Brooks i ymddiswyddo fel prif weithredwr News International.

Mae eu galwad yn dilyn cyfarfod a gafodd y teulu gyda’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg yn Whitehall y bore yma.

Mae’r teulu wedi cael eu dal yng nghanol helynt yr hacio ffonau, ers yr wybodaeth i ffôn symudol Milly gael ei hacio gan bobl yn gweithio i’r News of the World.

Meddai eu cyfreithiwr Mark Lewis ar eu rhan ar ôl y cyfarfod:

“Dydyn nhw ddim yn gweld pam y dylai Rebekah Brooks gael aros yn ei swydd.

“Hi oedd golygydd y News of the World ar yr adeg y cafodd Milly ei chipio yn 2002. Dylai wneud y peth anrhydeddus a chymryd cyfrifoldeb golygyddol.”

Dywedodd hefyd y dylai heddlu Surrey fod wedi dweud wrth y teulu Dowler y gallen nhw fod wedi cael eu targedu.

“Mae’n ymddangos bod heddlu Surrey yn gwybod ar y pryd fod ffôn Milly yn cael hacio. Mae pam na ddywedon nhw ddim wrth y teulu’n fater i heddlu Surrey ei ateb. Mae’n dangos nad yw’r berthynas yma sydd rhwng yr heddlu a’r wasg wedi ei gyfyngu i Heddlu Llundain.”