Mae trefniadau diogelwch llym yn eu lle gan yr heddlu yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer diwrnod y gorymdeithau mawr yfory – 12 Gorffennaf.

Mae hyn yn sgil pryder am wrthdaro pellach yn dilyn penwythnos o helyntion mewn ardaloedd unoliaethol yn swydd Antrim.

Fe fydd miloedd o aelodau o’r Urdd Oren allan yn gorymdeithio mewn gwahanol rannau o Ogledd Iwerddon yfory, uchafbwynt y tymor gorymdeithio.

Mae arweinwyr eglwysig a gwleidyddol, gan gynnwys y Prif Weinidog Peter Robinson a’r Dirprwy Brif Weinidog Martin McGuinness, wedi apelio am heddwch.

Meddai Alistair Finlay, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Iwerddon:

“Does dim rhaid i drais fod yn anochel. Mae angen i bobl gymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod pawb yn aros yn ddiogel yn y cyfnod hwn o densiwn.”

Herwgipio

Cafodd ceir eu herwgipio a’u llosgi mewn helyntion dros y penwythnos yn Ballyclare, Carrickfergus a Newtownabbey, a chafodd pump o blismyn eu hanafu wrth i fws gael ei yrru i mewn i un o Land Rovers yr heddlu. Roedd yr helynt wedi dechrau ar ôl i’r heddlu dynnu baneri unoliaethol i lawr ger eglwys Gatholig yn Ballyclare.

Fe fydd yr heddlu’n rhoi sylw arbennig i ogledd Belfast yfory lle bydd dynion yr Urdd Oren yn gorymdeithio heibio i’r ardal weriniaethol Ardoyne a lle mae cenedlaetholwyr yn bwriadu protestio yn eu herbyn.

Mae gwrthwynebiad i’r gorymdeithiau Oren wedi arwain at anhrefn difrifol yn yr ardal mewn blynyddoedd a fu.