Mae’r cwmni siopa ar-lein Amazon wedi cyhoeddi cynlluniau i agor canolfan brosesu newydd a fydd yn creu 900 o swyddi.

Fe fydd y ganolfan, yn Rugeley, Swydd Stafford, yn cychwyn prosesu archebion o fis Medi ymlaen.

Daw’r newydd o fewn misoedd i gyhoeddiad gan y cwmni y byddan nhw’n creu cannoedd o swyddi yn Dunfermline a Chaeredin yn yr Alban yn ogystal.

Meddai Arthur Valdez, un o is-lywyddion Amazon: “Fe fydd y ganolfan yn Rugeley yn chwarae rhan bwysig mewn diwallu archebion i gwsmeriaid ym Mhrydain, Ewrop a phob rhan o’r byd.

“Mae gennym Nadolig prysur ar y gorwel, ac rydym yn edrych ymlaen at drefnu tîm o bobl ddawnus a fydd yn chwarae eu rhan wrth sicrhau y bydd cwsmeriaid yn derbyn y miliynau o eitemau a fydd yn cael eu hysbysebu dros dymor yr ŵyl.”

Mae gan Amazon chwe chanolfan ddosbarthu ym Mhrydain ar hyn o bryd gan gynnwys un ym Mae Abertawe.