Mae disgwyl y bydd pennaeth News Corporation, Rupert Murdoch, yn hedfan i Lundain hedddiw i wynebu’r argyfwng cynyddol yn ei gorfforaeth.

Neithiwr, cafodd trydydd dyn ei arestio a’i gadw dros nos mewn cysylltiad â thaliadau honedig llwgr a wnaeth i blismyn.

Cafodd y dyn 63 oed ei arestio mewn cyfeiriad yn Surrey, wrth i gyn-olygydd y News of the World, Andy Coulson, gael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu. Roedd wedi cael ei holi am naw awr ynghylch honiadau o lygredd a’r sgandal hacio ffonau a arweiniodd at gau’r papur 168 oed. Roedd cyn-olygydd brenhinol y papur hefyd, Clive Goodman, wedi cael ei holi mewn gorsaf heddlu arall ynghylch honiadau o lwgrwobrwyo plismyn.

Wrth i Andy Coulson, 43 oed, o Forest Hill yn ne-ddwyrain Llundain, adael gorsaf heddlu Lewisham ddydd Gwener, meddai: “Mae yna lawer iawn yr hoffwn ei ddweud, ond alla i ddim ar hyn o bryd.”

Mae ef a Clive Goodman wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tan fis Hydref.

Yn y cyfamser, parhau yn ei swydd mae prif weithredwraig News International, Rebekah Brooks, a gyfarfu â staff y News of the World ddoe. Fe ddywedodd wrthyn nhw fod arni eisiau “ymladd i adfer enw da’r papur.”

Fe fydd rhifyn olaf y papur yn ymddangos yfory.