David Cameron
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi galw ar y Taliban i roi eu harfau o’r neilltu ac ymuno â’r broses wleidyddol yn Afghanistan.

Ar ddiwrnod olaf taith deuddydd i’r wlad, dywedodd y Prif Weinidog y gallai’r Taliban efelychu Sinn Fein, sydd bellach yn rhannu grym yng Ngogledd Iwerddon.

Mewn cynhadledd i’r wasg ar y cyd â’r Arlywydd Hamid Karzai, mynnodd na fyddai’r Taliban yn llwyddo i oresgyn y wlad drwy ddulliau treisgar.

Galwodd arnyn nhw i roi eu harfau o’r neilltu a “chwarae rhan yn nyfodol y wlad”.

Dywedodd ei fod yn bwriadu cyhoeddi yn Nhŷ’r Cyffredin yfory y bydd rhywfaint o filwyr y wlad yn dod adref, cyn i ran Prydain yn y frwydr ddod i ben yn swyddogol yn 2014.

Ychwanegodd David Cameron ei fod yn cydnabod y “pris uchel” y mae Prydain wedi ei dalu am ei ran yn y rhyfel, yn dilyn marwolaeth milwr Prydeinig arall ddoe.

Ond mynnodd fod angen i lywodraeth Afghanistan a’r Taliban gymodi os oedd y wlad am symud ymlaen.

“Mae’n anodd iawn cymodi â phobol sydd wedi bod yn lladd eich milwyr neu eich cyd-wladwyr,” meddai.

“Mae’r neges i’r Taliban yn glir: rhowch y gorau i ladd, i fomio, i frwydro, rhowch eich arfau o’r neilltu, ymunwch â’r broses wleidyddol a bod yn rhan o ddyfodol y wlad.”