Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi ffigyrau sy’n datgelu nifer yr erthyliadau a wnaed ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd ym Mhrydain, yn dilyn penderfyniad gan yr Uchel Lys.

Mae grŵp gwrth-erthyliad y ProLife Alliance wedi bod yn gwthio am yr hawl i gyhoeddi’r ffigyrau ers tro.

Roedd Adran Iechyd San Steffan wedi gwrthod yn wreiddiol, gan ddweud fod nifer y menywod sy’n cael erthyliad hwyr mor isel nes y byddai bygythiad i’r menywod hynny gael eu hadnabod.

Ond ym mis Ebrill fe benderfynodd yr Uchel Lys o blaid y ProLife Alliance, ac y dylai ystadegau gael eu cyhoeddi.

Maent yn cynnwys  menywod sy’n cael erthyliadau hwyr ar ôl cael gwybod bod y ffetws yn dioddef o nifer gyflyrau, gan gynnwys taflod hollt (cleft lip).

Mae’r data yn dangos mai 147 o erthyliadau a gafodd eu cynnal ym Mhrydain yn 2010 oedd yn hwyrach na 24 wythnos.

Mae erthyliad yn gyfreithlon yn y 24 wythnos gyntaf os yw’r babi yn dioddef o anableddau, neu os yw’r beichiogrwydd yn peri risg i iechyd meddwl y fam.

Ar ôl 24 wythnos, dim ond os oes risg sylweddol o abnormalrwydd corfforol neu feddyliol ‘difrifol’, neu fod bywyd y fam mewn perygl, y gellir caniatáu erthyliad.

Y ffigyrau

O’r 147 erthyliad hwyr, roedd y ffigyrau’n dangos fod 66 oherwydd problemau â’r system nerfol, fel spina bifida.

Ni chafodd yr un erthyliad ei gynnal oherwydd taflod hollt, er bod sawl erthyliad wedi ei gynnal cyn 24 wythnos am y rheswm hynny.

Roedd wyth erthyliad wedi 24 wythnos yn ymwneud â phroblemau gyda’r system gyhyrysgerbydol, a allai gynnwys troed glwb.

Roedd 29 erthyliad ar gyfer problem cromosomaidd, gan gynnwys 10 oherwydd syndrom Down, a 10 oherwydd syndrom Edward.

Yn 2005, cafodd un babi ei erthylu ar ôl 24 wythnos oherwydd taflod hollt – yr unig achos sydd wedi ei gofnodi yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf.