Dyw dros hanner y cartrefi ym Mhrydain ddim yn gallu cynilo unrhyw arian ar ddiwedd y mis, yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw.

Mae nifer y cartrefi sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd wedi cynyddu 1.3 miliwn dros y naw mis diwethaf.

Mae’r broblem ar ei waethaf yng ngorllewin canolbarth Lloegr, yna dwyrain canolbarth Lloegr, dwyrain gogledd Lloegr, ac yna yng Nghymru.

Mae hynny’n golygu fod 12 miliwn o’r 21 miliwn o gartrefi sydd ym Mhrydain yn gwario pob ceiniog ar dalu biliau a dyledion bob mis.

Yn ôl arolwg Legal & Genera,l dyw 57% o gartrefi Prydain ddim yn gallu arbed arian ac o fewn trwch blewyn i suddo i mewn i ddyled.

Dim ond 51% oedd yn y sefyllfa honno pan gafodd yr arolwg ei chynnal y tro diwethaf, ym mis Medi.

Chwyddiant

Mae chwyddiant wedi taro 4.5% dros y misoedd diwethaf – mwy na dwbl targed Banc Lloegr, sef 2% – wrth i brisiau bwyd, diod a thanwydd gynyddu.

Dywedodd Llywodraethwr Banc Lloegr, Mervyn King, yn gynharach eleni fod costau byw ar fin cynyddu ar y raddfa gyflymaf ers y 1920au.

“Mae chwyddiant uchel yn amlwg yn gwneud niwed i gyfrifon banc cartrefi ym Mhrydain,” meddai Mark Gregory, pennaeth arbedion Legal & General.

“Mae’r arolwg yn dangos fod dros filiwn o gartrefi ar draws y genedl yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd nag oedd dim ond naw mis yn ôl.

“Mae’r argyfwng ariannol yn golygu nad ydi miliynau o gartrefi bellach yn gallu arbed arian wrth i gostau biliau a dyledion gynyddu.”

Dim ond hanner y rheini oedd a morgeisi oedd ddim yn arbed arian – ond fe allai hynny newid os yw Banc Lloegr yn penderfynu codi’r gyfradd llog, meddai Mark Gregory.