Mae’n ymddangos fod rhan helaeth o gymhorthdal y llywodraeth i gwmni trenau wedi mynd yn uniongyrchol i bocedi’r perchennog y llynedd.

Cafodd Syr Richard Branson £17.8 miliwn mewn taliadau difidend gan Virgin Rail y llynedd – cwmni a dderbyniodd £40 miliwn o arian trethdalwyr dros yr un cyfnod.

Mae Virgin Rail, menter ar y cyd rhwng Richard Branson a’r cwmni teithio Stagecoach, wedi rhedeg gwasanaethau ar y rheilffordd o Lundain i Glasgow ac ar hyd arfordir y gogledd i Gaergybi ers 1997.

Mae adroddiad ariannol diweddaraf Stagecoach, sy’n berchen ar 49% o Virgin Rail, yn dangos iddo dderbyn difidend o £17.1 miliwn o’r fenter y llynedd. Golyga hyn fod Richard Branson wedi gwneud £17.8 milwn o’i siâr o 51%.

Mae’r taliad hwn yn codi’r cyfanswm y mae Branson wedi ei dderbyn o’r rheilffyrdd ers iddyn nhw gael eu preifateiddio i £188.8 miliwn.

Meddai llefarydd ar ran Virgin Rail: “Wnaeth Virgin ddim cymryd unrhyw ddifidend am y saith mlynedd gyntaf, ac mae’r trosiant erbyn hyn yn un o’r rhai cryfaf yn y diwydiant.”

Mae contract y cwmni i redeg y rheilffordd Llundain i Glasgow yn dod i ben y flwyddyn nesaf. Fe fydd yn gorfod cystadlu yn erbyn tri chwmni arall am y rhyddfraint newydd – FirstGroup, cwmni o’r Iseldiroedd, Abellio, a SNCF, sef rheilffyrdd Ffrainc, sy’n eiddo i lywodraeth y wlad.