Mae’r BBC wedi rhoi gwobr gan y Gymdeithas Teledu Frenhinol yn ôl wedi ansicrwydd ynglŷn â chynnwys ‘ffug’ y rhaglen arobryn.

Yn ôl ymchwiliad gan y darlledwr roedd hi’n “debygol iawn” fod y rhaglen Panorama yn cynnwys delweddau wedi eu ffugio o lafur plant.

Ymddiheurodd y gorfforaeth i siop dillad Primark yn gynharach y mis yma ar ôl adroddiad gan bwyllgor safonau golygyddol Ymddiriedolaeth y BBC.

Yn ôl yr adroddiad roedd darn 45 eiliad o hyd o’r rhaglen yn dangos tri bachgen yn gweithio mewn siop ddillad yn Bangalore, India. Roedd ansicrwydd a oedd y delweddau rheini wedi eu ffugio.

Ni ddylai’r delweddau fod wedi eu defnyddio yn y rhaglen Panorama gafodd ei ddarlledu yn 2008, medden nhw.

“Mae’r BBC wedi ymddiheuro am gynnwys delweddau nad oedd modd eu dilysu yn y rhaglen Panorama am Primark,” meddai llefarydd ar ran y gorfforaeth.

“Rydyn ni’n cydnabod ein bod ni wedi gwneud camgymeriad mawr ac felly ni fyddai yn briodol cadw gwobr y Gymdeithas Teledu Frenhinol.”