Dave Prentis, Unison
Bydd y llywodraeth ac undebau yn cynnal trafodaethau heddiw er mwyn ceisio atal cyfres o streiciau gan filiynau o weithwyr yn y sector gyhoeddus yn yr hydref.

Daw’r cyfarfod yn dilyn wythnosau o ddadlau cyhoeddus rhwng cynrychiolwyr yr undebau a gweinidogion y llywodraeth dros gynlluniau dadleuol i ddiwygio pensiynau yn y sector gyhoeddus.

Mar arweinydd undeb Unison, Dave Prentis, wedi rhybuddio y bydd y gweithredu diwydiannol mwyaf ers Streic Gyffredinol 1926 yn dilyn os nad yw’r anghydfod yn cael ei ddatrys.

Daw’r trafodaethau yn rhy hwyr i atal streic gan 750,000 o athrawon, darlithwyr, gweision sifil a gweithwyr eraill yn y sector gyhoeddus ddydd Iau.

‘Siomedig’

Mae swyddogion Unison yn credu y bydd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn awyddus i gymodi ar ôl cythruddo’r undebau drwy honni y byddai’r llywodraeth yn bwrw ymlaen â’u cynlluniau beth bynnag.

Mae wedi ei gwneud hi’n glir y bydd rhaid i weithwyr yn y sector gyhoeddus dalu rhagor i mewn i’w pensiynau a gweithio am ragor o amser.

“Fe fyddwn ni yn chwilio am arwydd fod y Llywodraeth yn fodlon ail-ystyried y tri mater canolog – talu mwy, gweithio yn hirach, a chael llai,” meddai Kevin Courtney, dirprwy ysgrifennydd cyffredinol Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

Dywedodd Francis Maude, gweinidog Swyddfa’r Cabinet, ei fod yn siomedig bod yr undebau wedi penderfynu streicio er na fydd y trafodaethau yn dod i ben nes mis Gorffennaf.

“Ond mae’r pleidleisiau diweddar yn dangos nad oes yna lawer iawn o gefnogaeth wedi bod i’r streiciau y mae arweinwyr yr undebau wedi galw amdanynt,” meddai.

“Mae llai na 10% o’r gweithwyr sifil wedi pleidleisio o blaid streicio, a dim ond tua thraean o athrawon.

“Mae gennym ni gynlluniau wrth gefn yn eu lle er mwyn sicrhau fod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cynnal yn ystod y streic ddydd Iau.”