James Bulger
Mae tad James Bulger wedi dweud wrth fwrdd parôl bod ei fywyd yn “hunllef ddyddiol” ers llofruddiaeth ei fab. 

Roedd Ralph Bulger wedi cael y cyfle i wneud Datganiad Personol y Dioddefwr, trwy ei gyfreithiwr, i fwrdd parôl Jon Venables – un o’r ddau fa gafwyd yn euog o lofruddio James Bulger. 

Yn siarad tu allan i Lys y Goron Lerpwl, fe ddywedodd Robin Makin, cyfreithiwr Ralph Bulger, bod yr hunllef yn parhau i’r teulu. 

Dywedodd Robin Makin bod Ralph Bulger wedi gorfod ail-fyw manylion llofruddiaeth ei fab, a oedd yn cynnwys artaith a cham-drin rhywiol a ddioddefodd y bachgen dwy oed. 

“Mae Ralph wedi gorfod delio gyda’r sefyllfa yna.  Mae wedi bod yn ddiwrnod anodd iddo,” meddai Robin Makin. 

Dywedodd y cyfreithiwr bod Ralph Bulger wedi dioddef o iselder ysbryd, problemau cysgu, hunllefau ac anhwylder straen wedi trawma (PTSD) a bod yr awdurdodau heb wneud dim i’w helpu. 

Cefndir

Roedd Jon Venables a Robert Thompson yn 10 oed pan wnaethon nhw gipio James Bulger o ganolfan siopa ar Lannau’r Merswy ym mis Chwefror 1993.

Treuliodd y ddau wyth mlynedd yn y carchar cyn cael eu rhyddhau yn 2001, gydag enwau a bywydau cyfrinachol newydd.

 Ond fe gafodd Jon Venables ei garcharu am ddwy flynedd ym mis Gorffennaf y llynedd ar ôl pledio’n euog  i ddal delweddau anweddus o blant ar ei gyfrifiadur.