David Cameron
Byddai torri dedfrydau troseddwyr wedi rhoi’r “neges anghywir” i droseddwyr a dioddefwyr meddai’r Prif Weinidog heddiw.

Cyhoeddodd David Cameron ei fod wedi gorfodi’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Kenneth Clarke, i gefnu ar ei gynlluniau i haneru dedfrydau troseddwyr sy’n pledio’n euog yn gynnar.

Ond dywedodd y Prif Weinidog fod angen diwygio’r system garchardai fel bod teuluoedd yn gallu teimlo “yn saff yn eu cartrefi”.

Roedd disgwyl y byddai’r Adran Gyfiawnder yn gallu arbed tua £100m bob blwyddyn drwy gyflwyno’r cynllun.

Ond dywedodd David Cameron y byddai angen i adran Kenneth Clarke ddod o hyd i’r arian ychwanegol drwy dorri nôl mewn meysydd eraill.

“Rydyn ni wedi penderfynu na fyddai torri dedfrydau yn briodol yn achos rhai o’r troseddwyr mwyaf llym,” meddai David Cameron.

“Byddai’r ddedfryd derfynol yn wahanol iawn i’r ddedfryd gafodd ei roi gan y barnwr a dyw hynny ddim yn dderbyniol.

“Fe fyddai yn anfon y neges anghywir ac fe fyddai yn difrodi hyder y cyhoedd yn y system.

“Mae angen i’r cyhoedd wybod y bydd troseddwyr peryglus yn cael eu caethiwo am amser hir. Rydw i’n benderfynol o sicrhau eu bod nhw.

“Yr holl bwynt yw gwneud i deuluoedd deimlo’n saff yn eu cartrefi eu hunain, a’u bod nhw’n gallu cerdded ar hyd y strydoedd heb fod yn ofn.

“Dydyn ddim yn mynd i leihau poblogaeth y carchardai drwy dorri dedfrydau. Rhaid i ni wneud i garchardai weithio.”

Y sac?

Mae tad Damilola Taylor, yr hogyn ysgol gafodd ei lofruddio, wedi galw ar y Prif Weinidog i roi’r sac i Kenneth Clarke.

“Dyw Ken Clarke ddim yn gwneud y peth cywir, dyw ei gynghorwyr ddim yn rhoi’r cyngor cywir iddo,” meddai.

“Dyw e ddim yn gwybod beth sy’n digwydd ar y strydoedd, dyw e ddim yn deall troseddwyr. Roedd penderfyniad David Cameron yn gywir.”