Dave Prentis, Unison
Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, wedi mynnu na fydd gweinidogion yn cefnu ar gynlluniau i ddiwygio pensiynau yn y sector gyhoeddus.

Dywedodd fod y Llywodraeth yn barod i drafod y manylion ond mai’r pen draw yw y bydd rhaid i filiynau o weithwyr dalu rhagor i mewn i’w pensiynau a gweithio oriau hirach.

“Y gobaith ydi y bydd rhaid i bobol weithio ychydig yn hirach a chyfrannu rhagor, ond ein bod ni’n cynnal safon eu pensiynau yn y dyfodol,” meddai Danny Alexander ar Sky News.

Mae disgwyl i filiynau o weithwyr yn y sector gyhoeddus streicio yn yr hydref, ond mae canghellor yr wrthblaid, Ed Balls, wedi annog yr undebau i beidio a disgyn i’r “trap”.

Dywedodd fod gweinidogion yn gobeithio tynnu’r undebau i’w pennau ac yna eu beio nhw pan nad yw’r economi yn adfer yn ddigon cyflym.

“Mae [y Canghellor] George Osborne yn torri ei fol eisiau mynd ben ben â’r undebau. Mae wedi bod yn dweud hynny ers misoedd,” meddai Ed Balls.

“Mae eisiau gwneud hynny fel nad ydi pobol yn gweld fod yr economi sy’n methu.”

‘Dim dewis’

Ond mae arweinwyr yr undebau – sy’n bygwth streiciau ar raddfa streic gyffredinol 1926 – wedi dweud fod rhaid iddyn nhw amddiffyn budd eu haelodau.

Mae disgwyl i 750,000 o athrawon a gweithwyr sifil gymryd rhan yn y streic gyntaf ar 30 Mehefin.

“Mae’r llywodraeth yma wedi ymosod ar swyddi ein haelodau a bellach eisiau mynd a’n pensiynau oddi arnom ni,” meddai ysgrifennydd cyffredinol undeb Unison, Dave Prentis.

“Does gennym ni ddim dewis ond dweud ein bod ni’n mynd i wrthwynebu. Os ydyn nhw’n parhau i’n trin ni â dirmyg bydd rhaid gweithredu yn ddiwydiannol.

“Dyma fydd y streic fwyaf ers 1926. Fe fydd hyd at 10 miliwn o bobol yn rhan o’r peth.”