Arwydd un o fanciau Northern Rock
Mae grwp prynu a gwerthu eiddo yn ystyried cynnig £1bn am y banc Northern Rock.

Mae Blackstone, sy’n cael ei arwain gan y biliwnydd Stephen Schwarzman, yn gobeithio ail-adrodd ei fuddsoddiad llwyddiannus yn BankUnited of Florida, a brynwyd gan y grwp pan oedd yr argyfwng ariannol ar ei waetha’.

Ond mae’r cwmni wedi cael ei feirniadu oherwydd ei ran yn helynt Southern Cross, grwp cynnal cartrefi preswyl mwya’ gwledydd Prydain. Mae’r cwmni hwnnw mewn helynt ariannol ac yn bygwth cau cartrefi er mwyn osgoi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Blackstone oedd perchennog Southern Cross rhwng 2004 a 2006, ac mae wedi cael ei feirniadu a’i gyhuddo gan undeb llafur y GMB o gefnogi model busnes sydd wedi gadael Southern Cross efo dyled rent anghynaliadwy. Mae Schwarzman yn gwrthod y cyhuddiadau hynny yn chwyrn.

Yr wythnos diwetha’, fe gyhoeddodd Canghellor y Trysorlys, George Osborne, ei fwriad i werthu Northern Rock mewn arwerthiant.