Holyrood
Fe ddylai Llywodraeth yr Alban ymgynghori gyda Llywodraeth Prydain cyn gosod cwestiwn ar gyfer refferendwm annibyniaeth, meddai un o weinidogion San Steffan.

Doedd yna ddim esgus tros fethu â chael un cwestiwn syml, meddai’r Dirprwy Weinidog yn Swyddfa’r Alban, David Madell.

Yn ôl papur newydd y Scotsman, fe allai’r cwestiwn gael ei herio yn y llysoedd ac fe fyddai’r achos yn gorffen yn y Goruchaf Lys yn Llundain.

Ymrafael

Mae’r datganiad yn arwydd o’r ymrafael cynyddol rhwng Holyrood a San Steffan tros fwriad Llywodraeth yr SNP i gynnal refferendwm o fewn y pum mlynedd nesa’.

Ofn gwleidyddion San Steffan yw y bydd Llywodraeth yr Alban yn gosod cwestiwn gyda sawl dewis – annibyniaeth neu fwy o rym ariannol.

“Does dim esgus tros beidio â chael cwestiwn syml, annibyniaeth neu beidio,” meddai David Madell.

“Dw i’n credu ei bod yn bwysig fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhan o’r broses o lunio’r cwestiwn gan sicrhau ein bod yn cael gwestiwn dilys ac na fydd yn cael ei herio oherwydd y broses.”