Swyddfa waith (Gwifren PA)
Fe fydd Llywodraeth Prydain yn hawlio llwyddiant wrth i nifer y di-waith gwympo o 88,000 yn ystod y chwarter diwetha’ – y cwymp mwya’ ers deng mlynedd.

Ond mae ffigurau eraill gan y Swyddfa Ystadegau’n awgrymu bod problemau’n parhau – gyda bron 20,000 yn rhagor yn hawlio budd-dal chwilio am waith a bron 40,000 yn rhagor yn economaidd segur.

Mae cyfanswm y di-waith trwy wledydd Prydain bellach i lawr i 2.43 miliwn a nifer y rhai sy’n hawlio budd-dal chwilio am waith wedi codi i 1.49 miliwn.

Cynnydd yn y sector preifat

Fe fydd y Llywodraeth yn arbennig o falch o weld cynnydd yn y sector preifat, gyda mwy na 104,000 o swyddi ychwanegol.

Mae hynny’n cyferbynnu â cholled o 24,000 o swyddi sector cyhoeddus – dadl y Llywodraeth yw y bydd busnesau preifat yn gwneud iawn am hynny.

Wrth i ragor o fanylion ddod ar gael, fe  fydd craffu hefyd ar rai ystadegau allweddol eraill – er enghraifft nifer y di-waith tymor hir a diweithdra ymhlith pobol ifanc.

Pwynt dadleuol arall yw fod mwy o bobol dramor na brodorion wedi cael gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ – roedd yna gynnydd o 177,000 o swyddi ymhlith dinasyddion Prydeinig ond mwy na 239,000 ymhlith pobol o wledydd eraill.