Mae Llywodraeth San Steffan yn ystyried codi arwyddion ffordd newydd fydd yn annog gyrwyr i gymryd y trên i gyrraedd lle maen nhw eisiau mynd.

Dywedodd y gweinidog diogelwch ar y ffyrdd, Mike Penning, y bydd yr arwyddion newydd yn “hollol wahanol” i unrhyw beth sydd wedi ei weld o’r blaen.

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl rhywfaint o wrthwynebiad i’r syniad. Roedd yn ymddangos o flaen Pwyllgor Trafnidiaeth Tŷ’r Cyffredin.

“Rydyn ni’n chwilio am fodd o ddarparu gwybodaeth well drwy gyfrwng arwyddion digidol,” meddai Mike Penning.

Bydd yr arwyddion yn annog gyrwyr i adael y draffordd er mwyn dal trên fydd yn teithio i’w cyrchfan yn gynt, meddai.

“Mae yn newid eithaf sylweddol,” meddai. “Rydw i’n siŵr y bydd rhai pobol yn gwrthwynebu.”

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Norman Baker, y bydd “rhai gyrwyr yn hapus i newid o un modd o deithio i’r llall”.

“Os oes yna arwydd yn hysbysebu taith ar drên fydd yn cymryd hanner yr amser efallai y bydd pobol yn fodlon cymryd y trên.”