Clinig Dignitas
Mae Syr Terry Pratchett wedi amddiffyn ei raglen ddogfen am ewthanasia, oedd yn dangos marwolaeth miliwnydd oedd yn dioddef o glefyd niwronau echddygol.

Yn y rhaglen ar BBC Two fe deithiodd yr awdur ffantasi 63 oed, sy’n dioddef o Alzheimer’s, i glinig Dignitas yn y Swistir er mwyn gweld dyn yn cymryd dos marwol o gyffuriau.

Dywedodd awdur cyfres nofelau poblogaidd Discworld wrth BBC Breakfast ei fod “yn credu bod y sefyllfa fel y mae hi ar hyn o bryd yn erchyll”.

“Rydw i’n gweld fod cymorth i gyflawni hunanladdiad yn bodoli mewn o leiaf tri lle yn Ewrop a’r Unol Daleithiau.

“Mae’r Llywodraeth wedi anwybyddu’r peth ac mae gen i gywilydd fod pobol Prydain yn gorfod llusgo eu hunain draw i’r Swistir.”

Roedd y ffilm In Choosing To Die yn dilyn taith Peter Smedley, 71, o’i gartref yn Guernsey i glinig Dignitas, sydd dros y 12 mlynedd diwethaf wedi rhoi cymorth i 1,100 o bobol i farw.

“Roedd Peter eisiau dangos i’r byd beth oedd yn digwydd a pam ei fod wedi dewis gwneud hyn,” meddai.

“Roedd yn sefyllfa rhyfedd iawn. Roedd dyn wedi marw, oedd yn beth trist, ond roedd o eisiau marw, felly roedd yn beth da.”

Ond mae ymgyrchwyr yn erbyn ewthanasia wedi ymosod ar y rhaglen. Dywedodd Alistair Thompson o gymdeithas Care Not Killing ei fod yn “bropaganda sy’n smalio bod yn rhaglen ddogfen”.

Cyhuddodd y BBC o roi llais i farn o blaid ewthanasia a bod tystiolaeth y bydd yn arwain at ragor o hunanladdiadau.