Senedd yr Alban yn Holyrood
Mae Llywodraeth yr Alban yn wynebu gwrthryfel gan awdurdodau lleol tros y penderfyniad i atal cau unrhyw ysgolion gwledig am gyfnod o flwyddyn.

Mae’r cynghorau – lle mae’r Blaid Lafur yn gry’ – yn cwyno nad oedd Llywodraeth yr SNP wedi trafod gyda nhw a bod y gwaharddiad yn “afresymol”.

Yn ôl papur y Scotsman, mae’r pwnc yn debyg o godi i’r berw heddiw wrth i Gyngor Argyll a Bute gynnal cyfarfod brys i ystyried cau 11 o ysgolion – yn ardal yr Ysgrifennydd Addysg sydd wedi cyhoeddi’r gwaharddiad.

Mae’r SNP eisiau sefydlu Comisiwn Darparu Ysgolion Gwledig i ystyried y rheolau ynglŷn â chau ysgolion ac mae hynny’n debyg o gynnwys ystyriaethau cymunedol.

Yn ôl Confensiwn Llywodraeth Leol yr Alban, mae’r Llywodraeth yn ceisio mynd â grym oddi ar y cynghorau.