Mae nifer o rieni wedi penderfynu peidio anfon eu plant i brifysgol, yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw.
Roedd un ym mhob tri o’r 500 o rieni oedd ag incwm o rhwng £15,000 a £40,000 a holwyd yn dweud nad oedd anfon eu plant i brifysgol bellach yn fuddsoddiad doeth.
Yn ôl yr arolwg gan gwmni addysg annibynol Edge roedd y rhan fwyaf o rieni yn credu bod addysg prifysgol yn llai gwerthfawr nag yr oedd ddegawd yn ôl.
Cyfaddefodd dau o bob pump eu bod nhw wedi newid eu meddwl am ganiatáu i’w plant fynd yn eu blaenau i addysg bellach.
Mae mwyafrif y prifysgolion ym Mhrydain, gan gynnwys Bangor, Aberystwyth, Caerdydd, Casnewydd a Morgannwg, wedi cyhoeddi y byddwn nhw’n codi’r £9,000 llawn ar fyfyrwyr i astudio yno.
Bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau i dalu £3,375 y flwyddyn, a Llywodraeth Cymru yn talu’r £5625 arall.
Gallu
“Mae angen i rieni ddeall fod dewisiadau amgen ar gael i’w plant yn ogystal â mynd i brifysgol,” meddai’r Arglwydd Baker, cadeirydd Edge.
“Mae hyfforddiant galwedigaethol yn rhoi’r sgiliau i bobol ifanc wneud y gorau ohoni yn y gweithle.”
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Fusnes Llywodraeth San Steffan fod mynd i brifysgol “yn dibynnu ar allu’r myfyriwr – nid y gallu i dalu”.
“Ni fydd myfyrwyr newydd yn talu unrhyw gostau yn syth, ac fe fydd yna ragor o gefnogaeth i deuluoedd sydd ar incwm isel.” meddai.
“Mae gradd prifysgol yn fuddsoddiad gwych yn y dyfodol. Mae angen i fyfyrwyr a’u teuluoedd wybod fod gwneud cais am gyllid yn hawdd ac mae’n bosib ei wneud ar y we.”