Clinig Dignitas
Mae ymgyrchwyr wedi cyhuddo’r BBC o hybu hunanladdiad cymorthedig ar ôl penderfynu dangos rhaglen ddogfen ar y pwnc ar y teledu heno.

Bydd y rhaglen gan yr awdur ffantasi Syr Terry Pratchett yn dangos marwolaeth dyn sy’n dioddef o  glefyd niwronau echddygol.

Mae’r BBC wedi gwadu y bydd yn arwain ar ragor o achosion tebyg, gan ddweud y bydd yn gyfle i wylwyr benderfynu drostyn nhw eu hunain.

Yn rhaglen Choosing to Die, ar BBC Two heno, bydd Peter Smedley, 71 oed, yn cael ei ddangos yn cymryd gorddos marwol o gyffuriau yng nghlinig Dignitas yn y Swistir.

Bydd y rhaglen yn dilyn Peter Smedley o’i gartref yn Guernsey i’r clinig, sydd wedi helpu dros 1,100 o bobol i farw dros y 12 mis diwethaf.

‘Cytbwys’

Dywedodd llefarydd ar ran mudiad Dignity in Dying fod y ffilm yn “emosiynol ac ar adegau yn anodd ei wylio”.

“Doedd yna ddim ymdrech i guddio’r gwir am farw â chymorth,” meddai.

“Mae’n ein herio ni i gyd i ystyried y pwnc llosg yma a gofyn beth fyddai ein penderfyniad ni ar ddiwedd ein bywydau.

“Ni fydd sensro’r ddadl yn gwneud unrhyw les i’r rheini sy’n dioddef ac sydd eisiau dod a’u bywydau i ben.”

Ond yn ôl mudiad Care not Killing, mae yna bryder y bydd dangos ewthanasia yn arwain at “gyfres o hunanladdiadau” gan bobol fregus.

“Y mwyaf ydych chi’n portreadu hyn, y mwyaf o bobol sy’n mynd i’w lladd eu hunain,” meddai.

“Mae’r BBC wedi ei ariannu mewn modd gwahanol i’r cyfryngau eraill ac mae ganddo gyfrifoldeb i fod yn gytbwys.”

Ar ddiwedd y rhaglen mae Terry Prachett, sy’n dioddef o glefyd Alzheimer, yn cyfaddef nad yw’n gwybod beth fydd ei benderfyniad ef yn y pen draw.