Mae athrawes fioleg ifanc yn paratoi i dderbyn croth ei mam – yn y gobaith y bydd hi’n gallu cario babi, yn yr un groth gariodd hi.
Mae Sara Ottson, 25, yn dioddef o syndrom Mayer Rokitanksy Kuster Hauser ac felly cafodd ei geni heb groth.
Mae ei mam, Eva Ottoson, 56, wedi cytuno i drawsblannu ei chroth hi i’w merch ei hun, y tro cyntaf erioed i hynny ddigwydd.
Dywedodd Sara Ottson, sy’n byw yn Stockholm, nad oedd hi’n pryderu am gael ail-ddefnyddio’r groth oedd wedi ei chario hi.
“Rydw i’n athrawes fioleg felly i fi mae yn organ fel pob organ arall,” meddai.
“Ond roedd fy mam i wedi fy holi i am y peth, a gofyn a oedd o braidd yn rhyfedd. Ond dydw i ddim yn credu hynny.
“Fy mhryder pennaf i yw bod fy mam yn mynd i orfod cael llawdriniaeth.”
Dywedodd ei mam, sy’n byw yn Nottingham, y gallai’r trawsblaniad ddigwydd y yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf.
“Rydw i a fy merch yn bobol resymol iawn ac rydyn ni’n dwy yn credu mai dim ond croth yw hi,” meddai.
“Mae angen croth arni hi ac rydw i wedi cael dwy ferch yn barod.”
Dywedodd Dr Mats Brannstrom, sy’n arwain y tîm meddygol, y bydd y llawdriniaeth yn anoddach na thrawsblannu aren, afu neu galon.
Dim ond unwaith o’r blaen y mae croth wedi ei drawsblannu, yn 2000. Bu’n rhaid ei dynnu ar ôl 99 diwrnod oherwydd cymhlethdodau.