Llys y Goron Caerdydd
Mae’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus wedi cefnogi galwadau ar i rai o weithgareddau llysoedd barn gael eu darlledu.
Dywedodd Keir Starmer QC y byddai cynigion darlledwyr yn galluogi’r cyhoedd i “weld cyfiawnder”.
“Mae egwyddor bwysig fod y llysoedd yn agored i’r cyhoedd, ond all y cyhoedd ddim mynd yno,” meddai.
“Fe fyddai camerâu’n eu galluogi nhw i weld beth sy’n mynd ymlaen a deall y broses.
“Dyma’r ffordd fodern o sicrhau bod y cyhoedd yn gweld cyfiawnder.”
Mae’n cydnabod y byddai’n rhaid wrth gyfyngiadau wrth ymdrin â thystion bregus a materion eraill.
“Dylid caniatáu camerâu a dylai’r barnwr gael yr hawl i orchymyn na ellir dangos rhan benodol o achos,” meddai.
“Petai pobl yn gweld erlynwyr yn esbonio’r achos a dadleuon yr amddiffyniad ac yn gweld y barnwr yn rhoi’r ddedfryd i unigolyn, yna fe fyddai ganddyn nhw lawer mwy o ffydd yn yr hyn sy’n mynd ymlaen yn y llys.”
Mae Adran 41 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 yn ei gwneud hi’n drosedd i ffilmio y tu mewn i lysoedd.