Y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg - hawlio buddugoliaeth
Mae disgwyl y bydd llywodraeth San Steffan yn derbyn argymhellion i newid ei chynlluniau ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

Mae corff o arbenigwyr, Fforwm Dyfodol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ar fin cyhoeddi adroddiad yn argymell y Llywodraeth i ddiwygio’i Fesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae’r Mesur hwnnw, sydd wedi cael ei ohirio ar y funud, wedi cael ei feirniadu’n hallt gan feddygon ac undebau gweithwyr iechyd sy’n pryderu’n benodol am y bwriad i gynyddu cystadleuaeth rhwng y Gwasanaeth Iechyd a chwmnïau preifat.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron eisoes wedi addo “newidiadau gwirioneddol” i’r mesur, gan gynnwys rhoi llais i feddygon ysbyty a nyrsys, yn ogystal ag i feddygon teulu wrth gomisiynu gofal. Addawodd hefyd na fydd cynnydd mewn cystadleuaeth ond pan fydd hynny o fudd i gleifion ac yn gwella dewisiadau.

Tensiynau

Ar yr un pryd, mae’r datblygiadau diweddaraf yn annhebyg o leihau tensiynau o fewn clymblaid y llywodraeth.

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi hawlio buddugoliaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol wrth sicrhau’r consesiynau gan David Cameron.

Fe fydd Nick Clegg yn dweud wrth ei blaid yr wythnos yma iddo sicrhau “bod eu llais wedi cael ei glywed” a bod y pecyn newydd yn “waith da” ar eu rhan.