Ed Miliband
 
Mae casgliad o ddogfennau wedi taflu goleuni ar ran Ed Miliband ag Ed Balls yng nghynllwyn Gordon Brown i ddisodli Tony Blair yn Brif Weinidog Prydain.

 Ymysg y papurau mae llythyrau gan Blair a Brown at ei gilydd, sy’n dangos eu bod wedi bargeinio ynghylch amodau trosglwyddo grym yn 10 Stryd Downing.

 Mae’r dogfennau yn awgrymu bod criw Gordon Brown yn cynllwynio ar gyfer ymadawaid Tony Blair o fewn wythnosau i’w ethol yn Brif Weinidog adeg etholiad cyffredinol 2005. Roedd Ed Miliband ag Ed Balls a Douglas Alexander yn allweddol yn y cynllwyn – bellach dyma Arweinydd y Blaid Lafur, Canghellor yr Wrthblaid ac Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid.

Diweddariad

Mae swyddogion yn ymchwilio i weld a oedd datgelu’r dogfennau preifat yn groes i reolau cyfrinachedd Llywodraeth Prydain.

Daeth cynnwys y dogfennau i’r fei yn The Daily Telegraph heddiw.