Gerry Adams - wedi ymddiswyddo (Doner 48 CCA 3.0)
Mae Aelod Seneddol newydd Sinn Fein yn dweud ei fod eisiau croesi’r ffin sectyddol i gynnal syrjeris mewn cadarnle Protestannaidd.

Yn union ar ôl ennill sedd Gorllewin Belffast mewn isetholiad, fe ddywedodd Paul Maskey ei fod yn gobeithio mynd i’r Shankill Road i gwrdd ag etholwyr.

Roedd hynny, meddai, yn dibynnu ar gael croeso gan y bobol yno ac roedd yn bwriadu cynnal trafodaethau gydag arweinwyr y gymuned leol.

“Dw i o ddifri ynglŷn â hyn,” meddai. “Dw ie isuiau cynnal syrjeris gwleidyddol ar draws Gorlleiwn Belffast, heb eithrio’r un rhan.

“Mae gyda ni ychydig flynyddoedd i lwyddo gyda hyn a dw i’n parchu safbwynt pawb yng Ngorllewin Belffast a dw i eisiau cael cyngor gan bobol ar y Shankill Road hefyd.”

Y cefndir

Fe enillodd Paul Maskey’r sedd yn gyfforddus yn yr isetholiad ar ôl ymddiswyddiad Gerry Adams, Llywydd Sinn Fein, sydd wedi ennill sedd yn senedd Gweriniaeth Iwerddon.

Roedd ganddo fwyafrif o 13,000 ond lefel y bleidlais – ychydig tros 37% – oedd yr isa’ erioed.

Y Shankill Road yw un o gadarnleoedd yr Unoliaethwyr Protestannaidd ym Melffast ac roedd yn ganolfan i grwpiau parafilwrol.

Mewn siop sglodion yno yn 1993 y cafwyd un o ddigwyddiadau gwaetha’r Helyntion pan gafodd deg o bobol eu lladd gan fom yr IRA.

Fe arweiniodd hynny at ymosodiadau dial ac fe gafodd Gerry Adams ei gondemnio am gario arch un o aelodau’r IRA a fu far wyn y digwyddiad.