Mae Archesgob Caergaint wedi beirniadu llywodraeth y glymblaid yn San Steffan, gan ddweud eu bod nhw’n bwrw ymlaen â diwygiadau mawr “nad oes neb wedi pleidleisio o’u plaid”.

Mewn erthygl yng nghylchgrawn y New Statesman, mae Dr Rowan Williams, gafodd ei fagu yn Abertawe, yn dweud fod polisïau’r llywodraeth wedi “drysu a digio” pobol.

“Gyda chwimder hynod maen nhw’n cyflwyno polisïau radicalaidd, hirdymor nad oes unrhyw un wedi pleidleisio o’u plaid,” meddai.

“Mae yna bryder dealladwy ynglŷn â phwrpas democratiaeth yn y cyd-destun yma.”

Mae sylwadau pennaeth yr Eglwys yn Lloegr, sydd wedi eu cyhoeddi ym mhapur newydd y Daily Telegraph, yn anarferol o feirniadol o’r llywodraeth.

Ysgrifennwyd yr erthygl ar gyfer cylchgrawn diweddaraf y New Statesman, sydd wedi ei olygu am y tro gan Rowan Williams.

Dywedodd fod gwleidyddiaeth San Steffan “yn teimlo’n gaeth” a’i fod eisiau cyffroi “dadl fywiocach”.

Rhybuddiodd nad oedd digon o bolisïau’r llywodraeth “wedi eu trafod yn iawn” a bod hynny wedi “drysu a digio” pleidleiswyr.

Mae hefyd yn beirniadu “y Gymdeithas Fawr” gan ddweud ei fod yn slogan “diflas” oedd yn cael ei “ddrwgdybio gan bawb”.

“Mae’r Llywodraeth angen gwybod faint o ofn y mae pobol yn ei deimlo ar hyn o bryd,” meddai.