Llong Rhyfel Brydeinig
Fe fydd llongau rhyfel Prydeinig yn parhau i gael eu hadeiladu yn yr Alban pe bai’r wlad yn annibynol, mynnodd un o weinidogion yr SNP heddiw.

Wfftiodd Gweinidog Amddiffyn yr Alban, John Swinney, awgrym Ysgrifennydd Amddiffyn Llywodraeth San Steffan, Liam Fox, y byddai annibyniaeth yn cael effaith difrifol ar ddiwydiant arfau y wlad.

Roedd Liam Fox wedi ymddangos o flaen pwyllgor o ASau o’r Alban yn Nhy’r Cyffredin ddoe, gan ateb cwestiynau am ddyfodol amddiffyn.

Dywedodd y byddai gan annibyniaeth yn yr Alban “oblygiadau cyfansoddiadola hefyd oblygiadau o ran amddiffyn”.

“Fe allai fod yn fater difrifol,” meddai, gan ychwanegu nad oedd “ansicrwydd” dros ddyfodol y wlad yn mynd i fod o les i’r diwydiant.

Ond awgrymodd John Swinney na fyddai annibyniaeth yn cael unrhyw effaith ar y diwydiant amddiffyn yn y wlad.

“Mae Llywodraeth San Steffan yn adeiladu llongau rhyfel yn yr Alban am mai dyna le maen nhw’n cael y gwerth gorau am eu harian,” meddai John Swinney wrth Radio Scotland.

“Yn ierdydd llongau yr Alban mae yna safon, mae yna weithwyr medrus, ac mae yna werth am arian, a fydd hynny ddim yn cael ei effeithio mewn unrhyw ffordd gan annibyniaeth.”