Ken Clarke (CCA 2.0)
Mae’n debygol y bydd Llywodraeth San Steffan yn troi cefn ar gynllun dadleuol i haneru dedfrydau troseddwyr sy’n pledio’n euog ar unwaith.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud wrth yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Kenneth Clarke, y bydd rhaid iddo ailfeddwl am  y cynllun, yn ôl papur newydd y Times.

Nod cynigion Kenneth Clarke oedd arbed arian trwy gyflymu’r prosesau cyfreithiol ond roedden nhw’n amhoblogaidd ymysg aelodau ei blaid a phleidleiswyr.

Yn ôl y papur newydd bydd rhaid iddo ddod o hyd i ffyrdd eraill o dorri £100m o gyllideb ei adran, heb dorri dedfrydau troseddwyr.

Treisio

Roedd y cynnig yn cynnwys torri dedfrydau treiswyr a fyddai’n pledio’n euog, a hynny wedi achosi dadlau mawr.

Fis diwethaf, wrth ddadlau’r achos, roedd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder dan bwysau mawr ar ôl honni fod rhai achosion o dreisio yn fwy difrifol nag eraill.

Awgrymodd y byddai treiswyr oedd yn ymosod ar ferched anfodlon yn cael dedfrydau hir, ond nad oedd rhai achosion eraill, er enghraifft rhyw cydsyniol â pherson dan oed, yn fater mor ddifrifol.

Galwodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, arno i ymddiswyddo a bu’n rhaid i Kenneth Clarke ymddiheuro gan ddweud fod “pob achos o dreisio yn drosedd ddifrifol”.