Imogen Thomas
Mae seren Big Brother, Imogen Thomas o Lanelli, wedi dweud na fydd hi byth eto yn caru â phêl-droediwr.

Mae Imogen Thomas wedi ei gwahardd gan achos llys rhag trafod ei pherthynas â Ryan Giggs, er iddo gael ei enwi gan Aelod Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin.

Roedd Ryan Giggs cael gorchymyn llys fel nad yw’r cyfryngau yn cael datgelu manylion am ei fywyd preifat.

Ond mae yna adroddiadau newydd ym mhapur newydd y Sun sy’n honni fod y pêl-droediwr 37 oed wedi cael perthynas â’i chwaer yng nghyfraith, Natasha.

Dywedodd Imogen Thomas wrth gylchgrawn Nuts na fydd hi “byth” yn mynd i berthynas â phêl-droediwr arall.

Gwadodd ei bod hi mewn perthynas â phêl-droediwr Spurs, Jermain Defoe.

“Pam ar y ddaear fyddwn i’n mynd mas da Jermain Defoe ar ôl y cwbl ydw i wedi bod drwyddi?” meddai.

“Fyddai hynny ddim o fudd i fi, a dw i ddim yn barod am berthynas arall rŵan.”

Awgrymodd y gallai ymddangos ar raglen Celebrity Big Brother pan fydd yn dychwelyd yn hwyrach ymlaen eleni.

“Hoffwn i ymddangos ar y rhaglen. Dydw i ddim yn cael dweud unrhyw beth.”