Mae un ymhob pump Prydeiniwr yn gwario pob ceiniog sydd â nhw bob mis, yn ôl arolwg newydd.

Cyfaddefodd 21% o’r rheini a holwyd nad oedden nhw’n arbed unrhyw arian ar ôl talu am bopeth oedd ei angen arnynt a’u holl filiau.

Cynhalwyd yr arolwg gan wefan disgowntiau MyVoucherCodes.co.uk.

Dywedodd 26% arall nad oedd eu cyflog hyd yn oed yn talu eu holl gostau, a’u bod nhw’n dragwyddol yn y coch.

Roedd 31% arall yn arbed tua 10% o’u hincwm bob mis, tra bod gan 14% tua traean o’u hincwm ar ôl.

Dim ond 4% ddywedodd fod eu cyfri banc yn iach, tra bod 19% yn dweud ei fod yn eithaf iach.

Roedd 50% yn dweud fod eu cyfrifon banc mewn cyflwr drwg neu erchyll. Roedden nhw hyd yn oed yn ei chael hi’n anodd prynu pethau sylfaenol fel tanwydd a bwyd.

“Roedd yn syndod fod 50% o’r rheini a holwyd yn credu fod eu sefyllfa ariannol yn ddrwg neu yn ddrwg iawn,” meddai Mark Pearson, cadeirydd MyVoucherCodes.co.uk.

“Rydyn ni’n mynd drwy gyfnod anodd, er fod y dirwasgiad ar ben, a mae cwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.”